Eseia 24:13-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. Felly y bydd dros y byd i gyd ymhlith y bobloedd,fel ar adeg ysgwyd yr olewydda lloffa'r gwinwydd ar ôl y cynhaeaf.

14. Byddant yn codi llef a llawenhau,datganant glod yr ARGLWYDD o'r gorllewin.

15. Am hynny taler parch i'r ARGLWYDD yn y dwyrain,i enw'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ynysoedd y gorllewin.

16. O eithafoedd y ddaear fe glywn orfoledd:“Gogoniant i'r Un Cyfiawn.”Ond fe ddywedaf fi, “Nychdod! Nychdod!Gwae fi! y twyllwyr a dwyllodd, twyllwyr a dwyllodd â'u twyll.”

17. Dychryn, pwll, maglsydd ar dy gyfer, breswylydd y tir;

18. y sawl a ffy o drwst y dychryna syrth i'r pwll,a'r sawl a gyfyd o ganol y pwlla ddelir yn y fagl.Oherwydd agorir ffenestri'r uchelder,ac fe gryna seiliau'r ddaear;

Eseia 24