Eseia 22:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yr oracl am ddyffryn y weledigaeth:Beth sy'n bod? Pam y mae pawb ohonochwedi dringo i bennau'r tai?

2. Dinas yn llawn cynnwrf, un mewn terfysg, tref mewn berw!Ni laddwyd dy laddedigion â'r cleddyf,na'th feirwon mewn brwydr.

3. Ffodd dy arweinwyr i gyd gyda'i gilydd,fe'u daliwyd heb blygu bwa;daliwyd dy filwyr praffaf i gyd gyda'i gilydd,er iddynt ffoi ymhell i ffwrdd.

4. Am hynny dywedais, “Trowch eich golwg oddi wrthyf,gadewch i mi wylo'n chwerw;peidiwch â cheisio fy niddanuam ddinistr merch fy mhobl.”

Eseia 22