Eseia 21:3-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Am hynny llanwyd fy lwynau â gofid,cydiwyd ynof gan wewyr, fel gwraig wrth esgor;cythryblwyd fi wrth ei glywed,brawychais wrth ei weld.

4. Y mae fy meddwl yn drysu, a braw yn fy nirdynnu;trodd yr hwyrddydd a ddymunais yn ddychryn imi.

5. Huliant fwrdd, taenant y lliain,y maent yn bwyta ac yfed.Codwch, chwi dywysogion, gloywch eich tarian.

6. Oherwydd fel hyn y dywed yr Arglwydd wrthyf:“Dos, gosod wyliwr i fynegi'r hyn a wêl.

7. Os bydd yn gweld cerbyd gyda phâr o feirch,marchog ar asyn neu farchog ar gamel,y mae i sylwi'n ddyfal, ddyfal.”

Eseia 21