Eseia 14:22-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

22. “Codaf yn eu herbyn,”medd ARGLWYDD y Lluoedd,“a dinistrio enw Babilon a'r gweddill sydd ynddi,yn blant a phlant i blant,”medd yr ARGLWYDD.

23. “A gwnaf hi'n gynefin i aderyn y bwn,yn gors ddiffaith,ac ysgubaf hi ag ysgubell distryw,”medd ARGLWYDD y Lluoedd.

24. Tyngodd ARGLWYDD y Lluoedd,“Fel y cynlluniais y bydd,ac fel y bwriedais y digwydd;

25. drylliaf Asyria yn fy nhir,mathraf hi ar fy mynyddoedd;symudir ei hiau oddi arnata'i phwn oddi ar dy gefn.

26. Hwn yw'r cynllun a drefnwyd i'r holl ddaear,a hon yw'r llaw a estynnwyd dros yr holl genhedloedd.

27. Oherwydd ARGLWYDD y Lluoedd a gynlluniodd;pwy a'i diddyma?Ei law ef a estynnwyd;pwy a'i try'n ôl?”

Eseia 14