Eseia 13:5-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Dônt o wlad bell,o eithaf y nefoedd—offer llid yr ARGLWYDD—i ddifa'r holl dir.

6. Udwch, y mae dydd yr ARGLWYDD yn agos;daw fel dinistr oddi wrth yr Hollalluog.

7. Am hynny fe laesa'r holl ddwylo,a bydd pob calon yn toddi gan fraw.

8. Bydd poen ac artaith yn cydio ynddynt;byddant mewn gwewyr fel gwraig wrth esgor.Edrychant yn syn ar ei gilydd,a'u hwynebau'n gwrido fel fflam.

9. Wele, daw dydd yr ARGLWYDD,yn greulon gan ddigofaint a llid,i wneud y ddaear yn ddiffaitha dileu ei phechaduriaid ohoni.

10. Bydd sêr y nefoedd a'u planedauyn atal eu goleuni;tywylla'r haul ar ei godiad,ac ni oleua'r lloer â'i llewyrch.

11. Cosbaf y byd am ei bechod,a'r drygionus am eu camwedd;gwnaf i falchder y beiddgar beidio,gostyngaf ymffrost y trahaus.

12. Gwnaf bobl yn brinnach nag aur coeth,a'r ddynoliaeth nag aur Offir.

Eseia 13