Eseia 1:24-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

24. Am hynny, medd yr ARGLWYDD, ARGLWYDD y Lluoedd, Cadernid Israel,“Aha! Caf fwrw fy llid ar y rhai sy'n fy mlino,a dialaf ar fy ngelynion.

25. Trof fy llaw yn dy erbyn,puraf dy sorod â thrwyth,a symudaf dy holl amhuredd.

26. Trof dy farnwyr i fod fel cynt,a'th gynghorwyr fel yn y dechrau.Ac wedi hynny fe'th elwiryn ddinas gyfiawn, yn dref ffyddlon.”

27. Gwaredir Seion trwy farn,a'i rhai edifeiriol trwy gyfiawnder.

28. Ond daw dinistr i'r gwrthryfelwyr a'r pechaduriaid ynghyd,a diddymir y rhai a gefna ar Dduw.

Eseia 1