Eseia 1:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Dyma'r weledigaeth a ddaeth i Eseia fab Amos am Jwda a Jerwsalem yn ystod teyrnasiad Usseia, Jotham, Ahas a Heseceia, brenhinoedd Jwda.

2. Clyw, nefoedd! Gwrando, ddaear!Oherwydd llefarodd yr ARGLWYDD:“Megais blant a'u meithrin,ond codasant mewn gwrthryfel yn f'erbyn.

3. Y mae'r ych yn adnabod y sawl a'i piau,a'r asyn breseb ei berchennog;ond nid yw Israel yn adnabod,ac nid yw fy mhobl yn deall.”

4. O genhedlaeth bechadurus,pobl dan faich o ddrygioni,epil drwgweithredwyr,plant anrheithwyr!Y maent wedi gadael yr ARGLWYDD,wedi dirmygu Sanct Israel, a throi cefn.

5. I ba ddiben y trewir chwi mwyach,gan eich bod yn parhau i wrthgilio?Y mae eich pen yn ddoluriau i gyd,a'ch holl galon yn ysig;

Eseia 1