Eseciel 6:4-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Anrheithir eich allorau a dryllir eich allorau arogldarth, a thaflaf eich clwyfedigion o flaen eich eilunod.

5. Bwriaf gyrff pobl Israel o flaen eu heilunod, a gwasgaraf eich esgyrn o amgylch eich allorau.

6. Lle bynnag y byddwch yn byw, fe anrheithir y dinasoedd ac fe fwrir i lawr yr uchelfeydd, fel bod eich allorau wedi eu hanrheithio a'u dinistrio, eich eilunod wedi eu dryllio a'u malurio, eich allorau arogldarth wedi eu chwalu a'ch gwaith wedi ei ddileu.

7. Bydd clwyfedigion yn syrthio yn eich mysg, a chewch wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.

Eseciel 6