Eseciel 45:20-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

20. Gwna'r un modd ar y seithfed dydd o'r mis dros unrhyw un a bechodd yn ddifwriad neu trwy anwybodaeth; felly y gwnewch gymod dros y tŷ.

21. “ ‘Ar y pedwerydd ar ddeg o'r mis cyntaf, cadwch y Pasg, yn ŵyl am saith diwrnod, pan fyddwch yn bwyta bara croyw.

22. Y diwrnod hwnnw y mae'r tywysog i baratoi bustach yn aberth dros bechod ar ei ran ei hun ac ar ran holl bobl y wlad.

23. Bob dydd yn ystod saith diwrnod yr ŵyl y mae i ddarparu saith bustach a saith hwrdd di-nam yn boethoffrwm i'r ARGLWYDD, a bwch gafr yn aberth dros bechod.

24. Yn fwydoffrwm y mae i ddarparu effa am bob bustach ac effa am bob hwrdd, gyda hin o olew am bob effa.

Eseciel 45