Eseciel 43:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yna aeth â mi at y porth oedd yn wynebu tua'r dwyrain,

2. a gwelais ogoniant Duw Israel yn dod o'r dwyrain. Yr oedd ei lais fel sŵn llawer o ddyfroedd, ac yr oedd y ddaear yn disgleirio gan ei ogoniant.

3. Yr oedd y weledigaeth yn debyg i'r un a gefais pan ddaeth i ddinistrio'r ddinas, ac i'r un a gefais wrth afon Chebar; a syrthiais ar fy wyneb.

Eseciel 43