Eseciel 42:7-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Yr oedd y mur y tu allan yn gyfochrog â'r ystafelloedd, a chyferbyn â hwy, ac yn ymestyn i gyfeiriad y cyntedd nesaf allan; yr oedd yn hanner can cufydd o hyd.

8. Yr oedd y rhes ystafelloedd ar yr ochr nesaf at y cyntedd allanol yn hanner can cufydd o hyd, a'r rhai ar yr ochr nesaf i'r cysegr yn gan cufydd.

9. Islaw'r ystafelloedd hyn yr oedd mynediad o du'r dwyrain, fel y deuir atynt o'r cyntedd nesaf allan,

10. lle mae'r mur allanol yn cychwyn.Tua'r de, gyferbyn â'r cwrt a chyferbyn â'r adeilad, yr oedd ystafelloedd,

11. gyda rhodfa o'u blaen. Yr oeddent yn debyg i ystafelloedd y gogledd; yr un oedd eu hyd a'u lled, a hefyd eu mynedfeydd a'u cynllun. Yr oedd drysau'r ystafelloedd yn y gogledd

Eseciel 42