Eseciel 42:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yna aeth y dyn â mi allan tua'r gogledd i'r cyntedd nesaf allan, ac arweiniodd fi i'r ystafelloedd oedd gyferbyn â chwrt y deml a'r adeilad tua'r gogledd.

2. Hyd yr adeilad â'i ddrws tua'r gogledd oedd can cufydd, a'i led yn hanner can cufydd.

3. Yn yr ugain cufydd oedd yn perthyn i'r cyntedd nesaf i mewn, a chyferbyn â phalmant y cyntedd nesaf allan, yr oedd orielau yn wynebu ei gilydd ar dri llawr.

Eseciel 42