22. Yr oedd ei ffenestri, ei gyntedd a'i balmwydd yr un mesuriadau â rhai porth y dwyrain; arweiniai saith o risiau ato, ac yr oedd y cyntedd gyferbyn â hwy.
23. Yr oedd agoriad i'r cyntedd nesaf i mewn gyferbyn â phorth y gogledd, fel yr oedd ym mhorth y dwyrain. Mesurodd o'r naill borth i'r llall, ac yr oedd yn gan cufydd.
24. Yna arweiniodd fi at ochr y de, a gwelais borth yn wynebu'r de. Mesurodd ei bileri a'i gyntedd, a'r un oedd eu mesuriadau â'r lleill.
25. Yr oedd ffenestri o amgylch yn y porth ac yn ei gyntedd, fel ffenestri'r lleill. Hanner can cufydd oedd ei hyd, a phum cufydd ar hugain ei led.
26. Arweiniai saith o risiau ato, ac yr oedd y cyntedd gyferbyn â hwy; yr oedd y pileri ar y naill ochr a'r llall wedi eu haddurno â phalmwydd.