Eseciel 40:15-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. Yr oedd y pellter o agoriad y porth i ben draw'r cyntedd yn hanner can cufydd.

16. Yr oedd ffenestri bychain oddi amgylch yn yr ystafelloedd ac yn y muriau y tu mewn i'r porth, ac felly hefyd yn y cyntedd; yr oedd y ffenestri oddi amgylch yn wynebu i mewn, ac yr oedd y pileri wedi eu haddurno â phalmwydd.

17. Yna aeth â mi i'r cyntedd nesaf allan, a gwelais yno ystafelloedd, a phalmant wedi ei wneud o amgylch y cyntedd; yr oedd deg ar hugain o ystafelloedd yn wynebu'r palmant.

18. Yr oedd y palmant wrth ochr y pyrth, a'r un hyd â'r pyrth; hwn oedd y palmant isaf.

Eseciel 40