Eseciel 39:26-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

26. Byddant yn anghofio'u gwarth, a'u holl anffyddlondeb tuag ataf fi pan oeddent yn byw'n ddiogel yn eu gwlad heb neb i'w dychryn.

27. Pan ddychwelaf hwy o blith y bobloedd a'u casglu o wledydd eu gelynion, amlygaf fy sancteiddrwydd trwyddynt hwy yng ngŵydd llawer o genhedloedd.

28. Yna byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD eu Duw, oherwydd, er imi eu hanfon i gaethglud ymhlith y cenhedloedd, fe'u casglaf ynghyd i'w gwlad heb adael yr un ohonynt ar ôl.

29. Ni chuddiaf fy wyneb oddi wrthynt mwyach, oherwydd byddaf yn tywallt fy ysbryd ar dŷ Israel, medd yr Arglwydd DDUW.”

Eseciel 39