Eseciel 39:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. “Fab dyn, proffwyda yn erbyn Gog a dywed, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Wele fi yn dy erbyn di, Gog, prif dywysog Mesach a Tubal.

2. Byddaf yn dy droi ac yn dy lusgo ymlaen; dof â thi o bellterau'r gogledd, a'th anfon yn erbyn mynyddoedd Israel.

3. Yna trawaf dy fwa o'th law chwith a pheri i'th saethau ddisgyn o'th law dde.

4. Ar fynyddoedd Israel y syrthi, ti a'th holl fyddin a'r bobloedd sydd gyda thi; fe'th rof yn fwyd i bob math o adar ysglyfaethus ac i'r anifeiliaid gwylltion.

5. Byddi'n syrthio yn y maes, oherwydd myfi a lefarodd, medd yr Arglwydd DDUW.

Eseciel 39