Eseciel 38:10-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. “ ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Y diwrnod hwnnw fe ddaw syniadau i'th feddwl, a byddi'n dyfeisio cynllun drygionus,

11. ac yn dweud, “Af i fyny yn erbyn gwlad o bentrefi diamddiffyn, ac ymosod ar bobl heddychol sy'n byw'n ddiogel—pob un ohonynt yn byw heb furiau na barrau na phyrth.

12. Fe ysbeiliaf ac fe anrheithiaf; trof fy llaw yn erbyn yr adfeilion a gyfanheddwyd, ac yn erbyn y bobl a gasglwyd o blith y cenhedloedd ac sydd yn meddu da ac eiddo ac yn byw yng nghanol y wlad.”

13. Bydd Sheba a Dedan, a marchnatwyr Tarsis a'i holl bentrefi, yn dweud wrthynt, “Ai i anrheithio y daethost? A gesglaist dy lu i ysbeilio, i gymryd arian ac aur, i gipio da ac eiddo, i gymryd llawer o ysbail?’ ”

14. “Felly, fab dyn, proffwyda a dywed wrth Gog, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Y diwrnod hwnnw, pan fydd fy mhobl Israel yn byw'n ddiogel, oni fyddi'n cyffroi?

15. Fe ddoi o'th le ym mhellterau'r gogledd, ti a phobloedd lawer gyda thi, i gyd yn marchogaeth ar geffylau, yn llu mawr ac yn fyddin gref.

16. Doi i fyny yn erbyn fy mhobl Israel fel cwmwl yn gorchuddio'r ddaear. Mewn dyddiau i ddod, O Gog, fe'th ddygaf yn erbyn fy nhir, er mwyn i'r cenhedloedd f'adnabod pan amlygaf fy sancteiddrwydd trwoch chwi yn eu gŵydd.

Eseciel 38