Eseciel 36:24-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

24. Oherwydd byddaf yn eich cymryd o blith y cenhedloedd, yn eich casglu o'r holl wledydd, ac yn dod â chwi i'ch gwlad eich hunain.

25. Taenellaf ddŵr glân drosoch i'ch glanhau; a byddwch yn lân o'ch holl aflendid ac o'ch holl eilunod.

26. Rhof i chwi galon newydd, a bydd ysbryd newydd ynoch; tynnaf allan ohonoch y galon garreg, a rhof i chwi galon gig.

27. Rhof fy ysbryd ynoch, a gwneud ichwi ddilyn fy neddfau a gofalu cadw fy ngorchmynion.

28. Byddwch yn byw yn y tir a roddais i'ch hynafiaid; byddwch yn bobl i mi, a minnau'n Dduw i chwi.

29. Gwaredaf chwi o'ch holl aflendid; byddaf yn galw am y grawn ac yn gwneud digon ohono, ac ni fyddaf yn dwyn newyn arnoch.

Eseciel 36