Eseciel 36:18-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

18. Felly tywelltais fy llid arnynt, oherwydd iddynt dywallt gwaed ar y tir a'i halogi â'u heilunod.

19. Gwasgerais hwy ymhlith y cenhedloedd nes eu bod ar chwâl trwy'r gwledydd; fe'u bernais yn ôl eu ffyrdd a'u gweithredoedd.

20. I ble bynnag yr aethant ymysg y cenhedloedd, yr oeddent yn halogi fy enw sanctaidd; oherwydd fe ddywedwyd amdanynt, ‘Pobl yr ARGLWYDD yw'r rhain, ond eto fe'u gyrrwyd allan o'i wlad.’

21. Ond yr wyf yn gofalu am fy enw sanctaidd, a halogwyd gan dŷ Israel pan aethant allan i blith y cenhedloedd.

22. “Felly dywed wrth dŷ Israel, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Nid er dy fwyn di, dŷ Israel, yr wyf yn gweithredu, ond er mwyn fy enw sanctaidd, a halogaist pan aethost allan i blith y cenhedloedd.

Eseciel 36