8. Llanwaf dy fynyddoedd â chelaneddau; bydd y rhai a laddwyd â'r cleddyf yn syrthio ar dy fryniau, yn dy ddyffrynnoedd ac yn dy holl nentydd.
9. Gwnaf di yn ddiffeithwch am byth, ac ni fydd neb yn byw yn dy ddinasoedd. Yna byddi'n gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.
10. “ ‘Oherwydd iti ddweud, “Eiddof fi fydd y ddwy genedl hyn a'r ddwy wlad hyn, a chymeraf feddiant ohonynt”, er bod yr ARGLWYDD yno,
11. felly, cyn wired â'm bod yn fyw, medd yr Arglwydd DDUW, fe wnaf â thi yn ôl y dig a'r eiddigedd a ddangosaist ti yn dy gasineb tuag atynt; gwnaf fy hunan yn wybyddus yn eu mysg pan farnaf di.