Eseciel 35:12-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Yna, byddi'n gwybod i mi, yr ARGLWYDD, glywed yr holl bethau gwaradwyddus a leferaist yn erbyn mynyddoedd Israel pan ddywedaist, “Y maent yn ddiffeithwch; fe'u rhoddwyd i ni i'w difa.”

13. Ymddyrchefaist yn f'erbyn â'th enau ac amlhau geiriau yn f'erbyn, a chlywais innau.

14. Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Tra bydd yr holl ddaear yn llawenhau, fe'th wnaf di'n ddiffeithwch.

15. Oherwydd iti lawenhau pan wnaed etifeddiaeth tŷ Israel yn ddiffeithwch, fel hyn y gwnaf i tithau: byddi di'n ddiffeithwch, o Fynydd Seir, ti a'r cyfan o Edom. Yna byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.’

Eseciel 35