Eseciel 30:6-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. “ ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:Bydd y rhai sy'n cefnogi'r Aifft yn syrthio,a darostyngir ei grym balch;o Migdol i Aswanbyddant yn syrthio trwy'r cleddyf,’ medd yr Arglwydd DDUW.

7. ‘Byddant yn anrhaith ymysg gwledydd anrheithiedig,a bydd eu dinasoedd ymysg dinasoedd anghyfannedd.

8. Yna byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD,pan rof dân ar yr Aifft,a phan ddryllir ei holl gynorthwywyr.

9. Y diwrnod hwnnw fe â negeswyr allan mewn llongau oddi wrthyf i ddychryn Ethiopia ddiofal, a daw gwewyr arnynt pan syrth yr Aifft; yn wir y mae'n dod.

Eseciel 30