Eseciel 26:18-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

18. Yn awr y mae'r ynysoedd yn crynuar ddydd dy gwymp;y mae'r ynysoedd yn y môr yn arswydowrth i ti syrthio.” ’

19. Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: ‘Pan wnaf di'n ddinas anrheithiedig, fel y dinasoedd sydd heb drigolion, a phan ddygaf y dyfnfor drosot, a'r dyfroedd mawrion yn dy orchuddio,

20. yna fe'th fwriaf i lawr gyda'r rhai sy'n disgyn i'r pwll at bobl o'r oesoedd gynt. Gwnaf iti fyw yn y tir isod, fel mewn hen adfeilion, gyda'r rhai sy'n disgyn i'r pwll; ac ni ddychweli i gymryd dy le yn nhir y rhai byw.

21. Rhof iti ddiwedd ofnadwy, ac ni fyddi mwyach; fe'th geisir, ond ni cheir mohonot byth mwy,’ medd yr Arglwydd DDUW.”

Eseciel 26