Eseciel 22:10-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Y mae ynot rai sy'n datguddio noethni eu tadau, ac yn treisio merched yn ystod eu misglwyf;

11. y mae un yn gwneud ffieidd-dra gyda gwraig ei gymydog, un arall yn halogi'n anllad ei ferch-yng-nghyfraith, ac un arall yn treisio ei chwaer, merch ei dad ei hun.

12. Y mae ynot rai sy'n derbyn llwgrwobr am dywallt gwaed; yr wyt yn cymryd llog ac elw, ac yn elwa ar dy gymdogion trwy drais. Anghofiaist fi, medd yr Arglwydd DDUW.

13. “ ‘Yn wir, byddaf yn dyrnu yn erbyn yr elw a wnaethost ac yn erbyn y gwaed sydd o'th fewn.

Eseciel 22