Eseciel 17:17-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. Ni all Pharo gyda'i fyddin gref a'i lu mawr wneud dim drosto mewn rhyfel, pan godir esgynfa ac adeiladu gwarchglawdd i ladd llawer o bobl.

18. Diystyrodd y llw a thorri'r cytundeb; er iddo daro bargen, eto gwnaeth y pethau hyn, ac felly nis arbedir.

19. Am hynny, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Cyn wired â'm bod yn fyw, ar ei ben ef ei hun y dygaf fy llw a ddiystyrodd a'm cytundeb a dorrodd.

20. Taenaf fy rhwyd drosto, ac fe'i delir yn fy magl; af ag ef i Fabilon a'i farnu yno am iddo fod yn anffyddlon i mi.

21. Lleddir â'r cleddyf holl wŷr dethol ei fyddin, a gwasgerir y gweddill i'r pedwar gwynt. Yna byddwch yn gwybod mai myfi, yr ARGLWYDD, a lefarodd.

22. “ ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Cymeraf finnau hefyd frigyn o ben y gedrwydden a'i blannu; torraf flagur tyner o'r blaenion a'i blannu ar fynydd mawr ac uchel.

23. Ar fynydd-dir uchel Israel y plannaf ef; fe dyf ganghennau, a rhoi ffrwyth a dod yn gedrwydden odidog. Bydd adar o bob math yn nythu ynddo, ac yn clwydo yng nghysgod ei gangau.

24. Bydd holl goed y maes yn gwybod mai myfi'r ARGLWYDD sy'n darostwng y goeden uchel ac yn codi'r goeden isel, yn sychu'r goeden iraidd ac yn bywiocáu'r goeden grin. Myfi, yr ARGLWYDD, a lefarodd, ac fe'i gwnaf.’ ”

Eseciel 17