Eseciel 16:21-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

21. Lleddaist fy mhlant a'u haberthu i'r eilunod.

22. Ac yn dy holl ffieidd-dra a'th buteindra, ni chofiaist ddyddiau dy ieuenctid, pan oeddit yn llwm a noeth ac yn ymdrybaeddu yn dy waed.

23. “ ‘Wedi dy holl ddrygioni (Gwae! Gwae di! medd yr Arglwydd DDUW),

24. adeiledaist i ti dy hun lwyfan, a gwnaethost iti uchelfa ym mhob sgwâr.

25. Ar ben pob stryd codaist dy uchelfa, a halogi dy brydferthwch gan ledu dy goesau i bob un a âi heibio, a phuteinio'n ddiddiwedd.

26. Puteiniaist gyda'r Eifftiaid, dy gymdogion trachwantus, ac ennyn fy nig â'th buteindra diddiwedd.

27. Estynnais innau fy llaw yn dy erbyn, a lleihau dy diriogaeth; rhoddais di i ddymuniad dy elynion, merched y Philistiaid, a gywilyddiwyd gan dy ffordd anllad.

Eseciel 16