Eseciel 16:14-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

14. Aethost yn enwog ymysg y cenhedloedd o achos dy brydferthwch, oherwydd fe'i perffeithiwyd trwy'r harddwch a roddais i arnat, medd yr Arglwydd DDUW.

15. “ ‘Ond aethost i ymddiried yn dy brydferthwch, a phuteiniaist oherwydd dy enwogrwydd; yr oeddit yn cynnig dy gorff i unrhyw un a âi heibio, ac yntau'n ei gymryd.

16. Cymeraist rai o'th ddillad, a gwneud i ti dy hun uchelfeydd lliwgar, a phuteiniaist yno; ni fu peth fel hyn, ac ni fydd ychwaith.

Eseciel 16