Eseciel 11:16-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. Felly dywed, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Er imi eu hanfon ymhell i blith y cenhedloedd, a'u gwasgaru trwy'r gwledydd, eto am ychydig bûm yn gysegr iddynt yn y gwledydd lle maent.’

17. Felly dywed, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Fe'ch casglaf o blith y bobloedd, a'ch dwyn ynghyd o'r gwledydd lle gwasgarwyd chwi, a rhoddaf ichwi dir Israel.’

18. Pan ddônt yno, fe fwriant allan ohoni ei holl bethau atgas a ffiaidd.

Eseciel 11