Eseciel 10:18-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

18. Yna symudodd gogoniant yr ARGLWYDD o fod uwchben rhiniog y deml, ac arhosodd uwchben y cerwbiaid.

19. Estynnodd y cerwbiaid eu hadenydd a chodi oddi ar y ddaear yn fy ngŵydd, ac fel yr oeddent yn mynd yr oedd yr olwynion yn mynd gyda hwy. Ond bu iddynt aros wrth ddrws porth y dwyrain i dŷ'r ARGLWYDD, ac yr oedd gogoniant Duw Israel yno uwch eu pennau.

20. Dyma'r creaduriaid a welais dan Dduw Israel wrth afon Chebar, a sylweddolais mai cerwbiaid oeddent.

21. Yr oedd gan bob un bedwar wyneb, a chan bob un bedair adain, gyda rhywbeth tebyg i law ddynol dan eu hadenydd.

22. Yr oedd eu hwynebau yn debyg o ran ymddangosiad i'r wynebau a welais wrth afon Chebar; yr oedd pob un ohonynt yn symud yn syth yn ei flaen.

Eseciel 10