Effesiaid 6:17-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. Derbyniwch helm iachawdwriaeth a chleddyf yr Ysbryd, sef gair Duw.

18. Ymrowch i weddi ac ymbil, gan weddïo bob amser yn yr Ysbryd. I'r diben hwn, byddwch yn effro, gyda dyfalbarhad ym mhob math o ymbil dros y saint i gyd,

19. a gweddïwch drosof finnau y bydd i Dduw roi i mi ymadrodd, ac agor fy ngenau, i hysbysu'n eofn ddirgelwch yr Efengyl.

20. Trosti hi yr wyf yn llysgennad mewn cadwynau. Ie, gweddïwch ar i mi lefaru'n hy amdani, fel y dylwn lefaru.

21. Er mwyn i chwithau wybod fy hanes, a beth yr wyf yn ei wneud, fe gewch y cwbl gan Tychicus, y brawd annwyl a'r gweinidog ffyddlon yn yr Arglwydd.

Effesiaid 6