Effesiaid 5:8-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. tywyllwch oeddech chwi gynt, ond yn awr goleuni ydych yn yr Arglwydd. Byddwch fyw fel plant goleuni,

9. oherwydd gwelir ffrwyth y goleuni ym mhob daioni a chyfiawnder a gwirionedd.

10. Gwnewch yn siŵr beth sy'n gymeradwy gan yr Arglwydd.

11. Gwrthodwch ymgysylltu â gweithredoedd diffrwyth y tywyllwch, ond yn hytrach dadlennwch eu drygioni.

12. Gwarthus yw hyd yn oed crybwyll y pethau a wneir ganddynt yn y dirgel.

Effesiaid 5