Effesiaid 3:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Oherwydd hyn, yr wyf fi, Paul, carcharor Crist Iesu er eich mwyn chwi'r Cenhedloedd, yn offrymu fy ngweddi.

2. Y mae'n rhaid eich bod wedi clywed am gynllun gras Duw, y gras sydd wedi ei roi i mi er eich lles chwi:

3. sef i'r dirgelwch gael ei hysbysu i mi trwy ddatguddiad. Yr wyf eisoes wedi ysgrifennu'n fyr am hyn,

4. ac o'i ddarllen gallwch ddeall fy nirnadaeth o ddirgelwch Crist.

Effesiaid 3