Ecclesiasticus 7:19-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. Paid â'th amddifadu dy hun o wraig ddoeth a da,oherwydd gwell nag aur yw ei hawddgarwch hi.

20. Paid â cham-drin caethwas sy'n gweithio'n onest,na gwas cyflog sy'n ymroi i'th wasanaeth.

21. Boed iti garu gwas deallus;paid â gwrthod ei ryddid iddo.

22. Os oes gennyt anifeiliaid, gofala amdanynt,ac os ydynt yn fuddiol iti, cadw hwy yn dy feddiant.

23. Os oes gennyt feibion, hyffordda hwy,a phlyg hwy dan yr iau o'u hieuenctid.

24. Os oes gennyt ferched, gwylia bod eu cyrff yn bur,a phaid â bod yn rhy dirion dy agwedd atynt.

25. Rho dy ferch mewn priodas, a byddi wedi cyflawni camp fawr;ond rho hi i ŵr deallus.

Ecclesiasticus 7