Ecclesiasticus 6:20-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

20. Llym iawn yw hi ar y rhai diaddysg,ac nid erys y diddeall yn ei chwmni.

21. Bydd yn gwasgu arno fel maen prawf trwm,ond ni bydd ef yn araf i'w bwrw hi oddi arno.

22. Oherwydd y mae doethineb gystal â'i henw,ac nid yw'n amlwg i lawer.

23. Gwrando, fy mab, derbyn fy marna phaid â gwrthod fy nghyngor.

24. Rho dy draed yn llyffetheiriau doethineb,a'th wddf yn ei haerwy hi.

25. Rho dy ysgwydd dani i'w chario hi,a phaid â gwingo yn erbyn ei rhwymau.

26. Tyrd ati â'th holl fryd,ac â'th holl allu cadw i'w ffyrdd hi.

27. Dos ar ei thrywydd a chais hi, a chei ei hadnabod;ac wedi cael gafael arni, paid â'i gollwng.

Ecclesiasticus 6