Ecclesiasticus 50:5-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Mor ogoneddus ydoedd, a'r bobl yn tyrru o'i gwmpaswrth iddo ddod allan trwy len y deml!

6. Yr oedd fel seren y bore yn disgleirio rhwng y cymylau,neu fel y lleuad ar ei hamserau llawn;

7. fel yr haul yn llewyrchu ar deml y Goruchaf,fel yr enfys yn pelydru'n amryliw yn y cymylau,

8. fel rhosyn yn blodeuo yn y gwanwyn,fel lili ger ffynnon o ddŵr,fel pren thus yn yr haf,

9. fel arogldarth yn llosgi mewn thuser,fel llestr o aur coethwedi ei addurno â meini gwerthfawr o bob rhyw fath,

Ecclesiasticus 50