Ecclesiasticus 5:12-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Ateb dy gymydog os yw'r deall gennyt;onid e, bydded dy law ar dy geg.

13. Yn lleferydd rhywun y mae ei fri a'i warth,ac yn ei dafod y mae achos cwymp iddo.

14. Paid ag ennill enw fel clepgi,na chynllwynio â'th dafod,oherwydd rhan y lleidr fydd cywilydd,a barnedigaeth lem fydd i'r dauwynebog.

15. Paid â chyfeiliorni mewn dim, boed fawr neu fach.

Ecclesiasticus 5