Ecclesiasticus 49:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Y mae coffadwriaeth Joseia fel arogldarthwedi ei weithio'n fedrus a'i ddarparu gan beraroglydd;y mae ei felyster fel mêl i bob genau,neu fel cerddoriaeth mewn gwledd o win.

2. Gweithredodd ef yn uniawn er tröedigaeth y bobl,gan fwrw ymaith bob ffieiddbeth anghyfreithlon.

3. Cyfeiriodd ei galon yn union at yr Arglwydd,ac yn nyddiau gwrthod y gyfraith bu'n gadarn ei ymlyniad wrth wir grefydd.

4. Ac eithrio Dafydd a Heseceia a Joseia,pentyrru trosedd ar drosedd a wnaeth pob brenin;cefnasant ar gyfraith y Goruchaf.Ac felly y darfu am frenhinoedd Jwda,

5. oherwydd ildiasant eu gallu i erailla'u gogoniant i genedl estron.

6. Llosgwyd y ddinas etholedig, cartref y cysegr,a gadael ei heolydd yn ddiffeithwch,

Ecclesiasticus 49