Ecclesiasticus 48:7-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. a glywodd geryddu yn Sinaia dyfarnu dial yn Horeb;

8. a eneiniodd frenhinoedd i dalu'r pwyth,a phroffwydi i fod yn olynwyr iddo;

9. a gymerwyd i fyny mewn corwynt o dân,mewn cerbyd a'i geffylau yn wenfflam;

10. ie, yr hwn yr ysgrifennwyd amdano y daw â'i geryddon yn eu priod amserau,i ostegu'r llid cyn dyfod y digofaint,i gymodi tad â'i fabac i adfer llwythau Jacob.

11. Gwyn eu byd y rhai a'th weloddac a hunodd yn dy gariad;oherwydd fe gawn ni fyw yn ddiau.

12. Wedi i Elias ddiflannu yn y corwynt,llanwyd Eliseus â'i ysbryd ef.Trwy gydol ei ddyddiau ni tharfwyd arno gan lywodraethwr,ac ni allodd neb gael y trechaf arno.

13. Ni bu dim y tu hwnt iddo,ac wedi iddo huno, proffwydodd ei gorff.

Ecclesiasticus 48