Ecclesiasticus 47:8-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Yn ei holl weithgarwch rhoes ddiolchi'r Un Sanctaidd a Goruchel, a datgan ei ogoniant;â'i holl galon canodd fawl,a mynegi ei gariad at ei Greawdwr.

9. Gosododd gantorion gerbron yr allori felysu'r gân â'i hyfrydlais.

10. Rhoes wedduster i'w gwyliau,a threfnu cylch cyflawn yr amseraui foliannu enw sanctaidd yr Arglwydd,a llenwi'r cysegr â sŵn mawl o'r bore bach.

11. Dileodd yr Arglwydd ei bechodaua'i ddyrchafu i awdurdod tragwyddol;gwnaeth gyfamod ag ef, i'w godi yn frenina'i osod ar orsedd ogoneddus Israel.

12. Ar ei ôl ef cododd ei fab, gŵr doeth,a gafodd, trwy ymdrech ei dad, ehangder i drigo ynddo.

13. Teyrnasodd Solomon mewn dyddiau o heddwch,a rhoes Duw lonyddwch o'i amgylch ar bob tu,er mwyn iddo godi tŷ er gogoniant i'w enw ef,a darparu cysegr i bara am byth.

14. Mor ddoeth fuost, Solomon, yn dy ieuenctid,a'th ddealltwriaeth fel afon yn gorlifo!

15. Ymledodd dy ddylanwad dros y ddaeara'i llenwi â diarhebion a dirgelion.

16. Daeth dy enw'n hysbys yn yr ynysoedd pell,a daethpwyd i'th garu am heddwch dy deyrnasiad.

Ecclesiasticus 47