Ecclesiasticus 47:19-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. Gollyngaist dy hun i gydorwedd â gwragedd,a rhoi iddynt hawl ar dy gorff.

20. Difwynaist dy enw daa halogi dy hiliogaeth;dygaist ddigofaint ar dy blant,a gofid iddynt am dy ffolineb:

21. rhannwyd y frenhiniaeth;ac o Effraim cododd teyrnas wrthryfelgar.

22. Ond nid yw'r Arglwydd byth yn ymwadu â'i drugareddnac yn torri'r un o'i addewidion;ac nid yw am ddileu llinach ei etholedigna difodi hiliogaeth yr un a'i carodd ef;felly rhoes weddill i Jacob,ac i Ddafydd un gwreiddyn o'i gyff.

23. Yna gorffwysodd Solomon gyda'i hynafiaid,gan adael i'w olynu un o'i feibion,ynfytyn y genedl, a'r gwannaf ei ddeall,Rehoboam, y gyrrodd ei amcanion y bobl i wrthryfela.Wedyn daeth Jeroboam fab Nebat, a wnaeth i Israel bechuac a osododd Effraim ar lwybr pechod.

24. Amlhaodd eu pechodau yn ddirfawr,nes eu gyrru'n alltud o'u gwlad.

25. Rhoesant gynnig ar bob math o ddrygioni,nes i'r farnedigaeth ddisgyn arnynt.

Ecclesiasticus 47