Ecclesiasticus 45:7-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Gwnaeth gyfamod tragwyddol ag ef,a rhoi offeiriadaeth ei bobl iddo.Addurnodd ef â thlysau caina'i arwisgo â mantell ogoneddus.

8. Gwisgodd ef ag ysblander cyflawn,a'i gadarnhau ag arwyddion awdurdod—y llodrau, y fantell laes a'r grysbas.

9. Gwregysodd ef â phomgranadau,a'i amgylchu ag amlder o glychau auri ganu a seinio gyda phob cam o'i eiddo,nes bod eu sŵn i'w glywed yn y cysegr,yn alwad i'r bobl i'w gofio.

10. Rhoes iddo wisg sanctaidd o aur a sidan glasa phorffor, o waith brodiwr;dwyfronneg barn, ynghyd â'r Wrim a'r Twmim;y bleth o ysgarlad, o waith crefftwr;

11. y meini gwerthfawr, wedi eu hysgythru fel seliaua'u gosod mewn aur, o waith gemydd,yn dwyn arysgrifen gerfiedig yn goffadwriaeth,a'u rhif yn ôl llwythau Israel;

Ecclesiasticus 45