Ecclesiasticus 45:2-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. Lluniodd Duw ef yn un mewn gogoniant â'r angylion sanctaidd,a pheri i'w elynion ei ofni'n ddirfawr.

3. Trwy ei air ef rhoes Duw derfyn ar yr arwyddion;a rhoes iddo anrhydedd yng ngŵydd brenhinoedd.Rhoes iddo orchmynion ar gyfer ei bobl,a dangos iddo rywbeth o'i ogoniant ei hun.

4. Am ei ffydd a'i addfwynder, fe'i cysegrodd,a'i ddewis ef o blith pawb byw.

5. Caniataodd iddo glywed ei lais,a'i arwain i mewn i'r cwmwl tywyll;wyneb yn wyneb, rhoes iddo'r gorchmynion,cyfraith i roi bywyd a gwybodaeth,i ddysgu ei gyfamod i Jacoba'i farnedigaethau i Israel.

6. Dyrchafodd Aaron hefyd, gŵr sanctaidd fel Moses,a brawd iddo, o lwyth Lefi.

7. Gwnaeth gyfamod tragwyddol ag ef,a rhoi offeiriadaeth ei bobl iddo.Addurnodd ef â thlysau caina'i arwisgo â mantell ogoneddus.

8. Gwisgodd ef ag ysblander cyflawn,a'i gadarnhau ag arwyddion awdurdod—y llodrau, y fantell laes a'r grysbas.

9. Gwregysodd ef â phomgranadau,a'i amgylchu ag amlder o glychau auri ganu a seinio gyda phob cam o'i eiddo,nes bod eu sŵn i'w glywed yn y cysegr,yn alwad i'r bobl i'w gofio.

Ecclesiasticus 45