Ecclesiasticus 44:4-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Bu rhai'n cyfarwyddo'r bobl â'u cynghorionac â'u dealltwriaeth o addysg y bobl,yn hyfforddi â geiriau doeth.

5. Yn eu plith yr oedd cyfansoddwyr cerddoriaethac awduron arwrgerddi ein llên.

6. Yr oedd rhai yn wŷr cyfoethog a chryf eu hadnoddau,yn byw'n heddychlon yn eu cartrefi.

7. Y rhain i gyd, cawsant glod yn eu cenedlaethau,a dod yn achos ymffrost yn eu hamserau.

8. Y mae rhai ohonynt a adawodd enw ar eu hôl,i bobl allu traethu eu clod yn llawn.

9. Ond y mae eraill nad oes iddynt goffadwriaeth;darfu amdanynt fel pe baent heb eu geni;aethant fel rhai na fuont erioed,a'u plant ar eu holau yr un modd.

10. Ond nid felly ein cyndadau; gwŷr teyrngar oeddent hwy,ac nid aeth eu gweithredoedd da yn angof.

Ecclesiasticus 44