Ecclesiasticus 43:17-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. wrth sŵn ei daran y gwinga'r ddaear,a daw tymestl o'r gogledd, a chorwynt.Y mae'n taenu'r plu eira fel adar yn disgyn;dônt i lawr fel haid o locustiaid yn glanio.

18. Rhyfeddod i'r llygad yw tegwch eu gwynder,a syndod i'r galon yw eu gweld yn disgyn.

19. A'r barrug, y mae'n ei dywallt ar y ddaear fel halen,a hwnnw wedyn yn rhewi'n ddrain pigog.

20. Y mae gwynt oer y gogledd yn chwythuac yn caledu'r rhew ar wyneb y dŵr;ar bob cronfa o ddŵr fe ddaw'r rhew,a'r dŵr yn ei wisgo fel llurig.

21. Y mae'n difa'r mynyddoedd ac yn llosgi'r anialwch,ac yn crino'r borfa fel tân.

22. Yn sydyn daw niwlen i iacháu pob peth;ac wedi'r gwres, y gwlith yn disgyn i sirioli'r wlad.

23. Llonyddodd ef y dyfnfor â grym ei feddwl,a phlannodd ynysoedd ynddo.

24. Y mae'r rhai sy'n hwylio ar y môr yn traethu am ei beryglon,nes peri syndod i ni sy'n eu clywed.

25. Ynddo gwelir creaduriaid anhygoel a rhyfeddol,anifeiliaid o bob rhywogaeth ac angenfilod y môr.

26. O'i allu ei hun fe ddwg i ben ei holl amcanion,ac yn ei air ef y mae popeth yn cydsefyll.

27. Faint bynnag a ddywedwn, ni allwn byth ddod i ben.Swm a sylwedd yr hyn a draethwyd yw: ef yw'r cyfan.

28. O ble y cawn fedr i ganu ei glod?Oherwydd mwy yw ef na'i weithredoedd i gyd.

29. Ofnadwy yw'r Arglwydd, a mawr iawn,a rhyfeddol yw ei allu ef.

30. Gogoneddwch yr Arglwydd, dyrchafwch efhyd eithaf eich gallu, oherwydd rhagorach lawer yw na'ch mawl;dyrchafwch ef, ymegnïwch yn fwyfwyheb ddiffygio dim, oherwydd ni ddewch byth i ben.

31. Pwy a'i gwelodd ef, i fedru traethu amdano?A phwy a all ei fawrhau yn deilwng o'r hyn ydyw?

Ecclesiasticus 43