Ecclesiasticus 42:5-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. a gwneud elw trwy fargeinio â masnachwyr;o ddisgyblu mynych ar blant,a thynnu gwaed o ystlys caethwas drwg.

6. Peth da yw sêl lle bo gwraig ddidoreth,a chlo lle bo dwylo lawer.

7. Beth bynnag a roddi i'w gadw, cymer ofal i'w rifo a'i bwyso,ac ym mhob rhoi a derbyn, cadw gofnod ysgrifenedig.

8. Na foed cywilydd arnat o gywiro'r anwybodus a'r ynfyd,neu rywun oedrannus sy'n dadlau â phobl ifainc.Byddi felly yn dangos iti gael addysg wirioneddol,a byddi'n gymeradwy gan bawb.

Ecclesiasticus 42