Ecclesiasticus 42:20-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

20. Ni ddihangodd unrhyw wybodaeth rhagddo,ac ni chuddiwyd dim un gair o'i olwg.

21. Rhoes drefn ar fawrion weithredoedd ei ddoethineb;y mae yn bod o dragwyddoldeb i dragwyddoldeb,un nad oes ychwanegu ato na thynnu oddi wrtho,a heb fod arno angen cyngor neb.

22. Mor ddymunol yw ei holl weithredoedd ef,fel y gwelir hyd yn oed mewn gwreichionen.

23. Y mae pob un ohonynt a bywyd ynddi, ac yn para am byth,ac yn ufudd ym mhob defnydd a wneir ohoni.

24. Y mae dau o bob peth, y naill yn wrthwyneb i'r llall;ni wnaeth ef ddim yn ddiffygiol.

25. Y mae'r naill yn cadarnhau gwerth y llall.Pwy a all gael digon o syllu ar ei ogoniant ef?

Ecclesiasticus 42