Ecclesiasticus 41:9-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Pan gewch eich geni, i felltith y'ch genir,a phan fyddwch farw, melltith fydd eich rhan.

10. Y mae popeth sydd o'r ddaear i ddychwelyd i'r ddaear;felly yr â'r annuwiol o felltith i ddistryw.

11. Galaru am eu cyrff a wna pobl,ond dileir enw pechaduriaid am nad yw'n dda.

12. Cymer ofal o'th enw, oherwydd fe erys i'th glodyn hwy na mil o gronfeydd mawr o aur.

13. I fywyd da y mae nifer penodedig o ddyddiau,ond y mae enw da yn aros am byth.

14. Fy mhlant, daliwch afael ar eich addysg, i fyw mewn heddwch.Doethineb guddiedig a thrysor anweledig,pa fudd sydd yn y naill na'r llall?

15. Gwell yw rhywun sy'n cuddio'i ffolinebna'r un sy'n cuddio'i ddoethineb.

Ecclesiasticus 41