4. Dyma'r ddedfryd a gyhoeddodd yr Arglwydd ar bawb;pa les i ti wrthsefyll ewyllys y Goruchaf?Boed blynyddoedd dy einioes yn ddeg, neu'n gant, neu'n fil,yn Nhrigfan y Meirw ni bydd holi amdani.
5. Plant ffiaidd yw plant pechaduriaid,yn ymdroi yn nhrigfannau'r annuwiol.
6. Plant pechaduriaid, fe dderfydd eu hetifeddiaeth,a gwaradwydd fydd rhan eu hiliogaeth am byth.
7. Bydd ei blant yn beio tad annuwiolam y gwaradwydd a ddaeth arnynt o'i achos ef.
8. Gwae chwi, rai annuwiol,a gefnodd ar gyfraith y Duw Goruchaf.
9. Pan gewch eich geni, i felltith y'ch genir,a phan fyddwch farw, melltith fydd eich rhan.
10. Y mae popeth sydd o'r ddaear i ddychwelyd i'r ddaear;felly yr â'r annuwiol o felltith i ddistryw.