Ecclesiasticus 41:3-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Paid ag ofni dedfryd marwolaeth;cofia'r rhai a fu o'th flaen a'r rhai a ddaw ar dy ôl.

4. Dyma'r ddedfryd a gyhoeddodd yr Arglwydd ar bawb;pa les i ti wrthsefyll ewyllys y Goruchaf?Boed blynyddoedd dy einioes yn ddeg, neu'n gant, neu'n fil,yn Nhrigfan y Meirw ni bydd holi amdani.

5. Plant ffiaidd yw plant pechaduriaid,yn ymdroi yn nhrigfannau'r annuwiol.

6. Plant pechaduriaid, fe dderfydd eu hetifeddiaeth,a gwaradwydd fydd rhan eu hiliogaeth am byth.

7. Bydd ei blant yn beio tad annuwiolam y gwaradwydd a ddaeth arnynt o'i achos ef.

8. Gwae chwi, rai annuwiol,a gefnodd ar gyfraith y Duw Goruchaf.

9. Pan gewch eich geni, i felltith y'ch genir,a phan fyddwch farw, melltith fydd eich rhan.

10. Y mae popeth sydd o'r ddaear i ddychwelyd i'r ddaear;felly yr â'r annuwiol o felltith i ddistryw.

11. Galaru am eu cyrff a wna pobl,ond dileir enw pechaduriaid am nad yw'n dda.

12. Cymer ofal o'th enw, oherwydd fe erys i'th glodyn hwy na mil o gronfeydd mawr o aur.

13. I fywyd da y mae nifer penodedig o ddyddiau,ond y mae enw da yn aros am byth.

14. Fy mhlant, daliwch afael ar eich addysg, i fyw mewn heddwch.Doethineb guddiedig a thrysor anweledig,pa fudd sydd yn y naill na'r llall?

15. Gwell yw rhywun sy'n cuddio'i ffolinebna'r un sy'n cuddio'i ddoethineb.

16. Gan hynny, byddwch yn barchus o'm gair i,oherwydd nid yw pob math o gywilydd yn beth da i'w goleddu,ac nid yw pob peth i'w gymeradwyo'n ffyddiog bob amser.

17. Bydded cywilydd arnoch o buteindra yng ngŵydd tad a mam,o gelwydd yng ngŵydd tywysog a llywodraethwr,

18. o drosedd yng ngŵydd barnwr ac ynad,o gamwedd yng ngŵydd y gynulleidfa a'r bobl,o anghyfiawnder yng ngŵydd cydymaith a chyfaill,

Ecclesiasticus 41