Ecclesiasticus 40:21-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

21. Y mae pibell a thelyn yn bêr eu sain,ond gwell na'r ddwy yw llais swynol.

22. Tegwch a phrydferthwch sydd wrth fodd y llygad,ond gwell na'r ddau yw egin glas yr ŷd.

23. Hyfryd yw taro ar gâr a chyfaill,ond gwell na'r ddau yw bod yn ŵr a gwraig.

24. Hyfryd yn amser cyfyngder yw cael teulu a chefnogaeth,ond gwell na'r ddau i achub yw elusengarwch.

25. Rhydd aur ac arian droedle sefydlog i rywun,ond gwell na'r ddau mewn bri yw cyngor buddiol.

Ecclesiasticus 40